DPS11 Oxfam Cymru  

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith | Climate Change, Environment and Infrastructure Committee

Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus | Decarbonising the public sector

Ymateb gan Oxfam Cymru | Evidence from Oxfam Cymru

Gan adeiladu ar waith Archwilio Cymru, hoffai’r Pwyllgor gael barn am y canlynol:

1. Beth yw eich barn am rôl Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus i gwblhau’r pum cam a nodwyd yn adroddiad Archwilio Cymru?

2. Beth yw eich barn am ddefnyddio Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru, fel ffordd o roi cyfeiriad strategol i gyrff cyhoeddus?

Mae’r trywydd hwn yn rhoi trosolwg strategol o’r meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer gweithredu a cherrig milltir i’r sector cyhoeddus gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2030. Nid yw'n nodi 'sut' na'r camau gweithredu y mae eu hangen i gyflawni'r cerrig milltir hyn, yn hytrach mae'n gweithredu fel fframwaith strategol i helpu i asesu'r hyn sydd eisoes ar waith a'r hyn sy'n ofynnol i gyrraedd lle mae angen i ni fod.

Mae’r pedwar maes a nodir yn y trywydd yn rhai allweddol i gyflawni ein huchelgais ar y cyd i leihau allyriadau carbon, fodd bynnag mae’n debygol y bydd llawer o sefydliadau’n cynnwys meysydd blaenoriaeth eraill.

Mae’r trywydd yn fframwaith angenrheidiol ond annigonol ar gyfer gweithredu gan sector cyhoeddus Cymru ynghylch y newid yn yr hinsawdd. Er bod allyriadau gweithredol y sector cyhoeddus ei hun yn bwysig ac yn darparu esiampl arweiniol, mae dull gweithredu seiliedig ar le yn hanfodol os yw Cymru am gyflawni ei nodau hinsawdd ehangach. Dim ond un rhan o’r rôl y mae angen i gynghorau ei chwarae yw nod Sero Net y Sector Cyhoeddus.

Canfu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd fod mwy na hanner y toriadau mewn allyriadau y mae eu hangen yn dibynnu ar bobl a busnesau’n dewis atebion carbon isel – penderfyniadau a wneir ar lefel leol ac unigol. Mae llawer o'r penderfyniadau hyn yn dibynnu ar gael seilwaith a systemau ategol yn eu lle. Mae gan awdurdodau lleol bwerau neu ddylanwad dros tua thraean o'r allyriadau yn eu hardaloedd lleol .

Mae canolbwyntio ar ddatgarboneiddio gweithredol yn unig yn gyfle a gollwyd i Gymru. Wrth i Lywodraeth Cymru arwain y byd wrth ddatgan argyfwng hinsawdd, felly hefyd y gallai’r sector cyhoeddus yng Nghymru trwy gyflawni ei botensial i arwain y gwaith o leihau allyriadau ledled cymdeithas gyfan.

Mae'r Ras i Sero, a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig, yn arwain mentrau sero net i godi uchelgais o ran yr hinsawdd yn unol â Chytundeb Paris. Mae’n alwad fawr i genhedloedd, dinasoedd, rhanbarthau, cynghorau, busnesau a phrifysgolion yn y gyd-ymdrech i leihau allyriadau a mynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd er lles y bobl a’r blaned.

Mae Oxfam Cymru yn gweithio gyda Climate Cymru a phartneriaid cymdeithas sifil eraill i gydlynu’r dull Ras i Sero ar draws Cymru. Gyda chymorth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cynhaliodd Oxfam Cymru sesiwn wybodaeth lwyddiannus gyda dros 100 o gyfranogwyr ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru ochr yn ochr â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a phrosiect DK2020 Realdania.

Mae Cymru fel cenedl yn aelod o Ras i Sero, gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd (yn cynrychioli 10 o’n 22 o awdurdodau lleol), ac mae ein tri Pharc Cenedlaethol yn y broses o ymuno. Mae yna achos cryf iawn i bob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru ymuno â'r Ras i Sero, a bod yn rhan o ddull cydlynol ar gyfer Tîm Cymru er mwyn cyflawni nodau hinsawdd Cymru.

 

3. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed gan gyrff cyhoeddus yn y meysydd gweithredu â blaenoriaeth a nodir yn y ddogfen: caffael cynaliadwy, adeiladau sero net, symudedd a thrafnidiaeth, a defnydd tir?

4. Beth yw eich barn am y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i sicrhrau cynnydd yn y meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys unrhyw fylchau?

5. Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu codi o fewn cwmpas yr ymchwiliad hwn?

Er y cydnabyddir bod canolbwyntio ar ôl troed y sector cyhoeddus ei hun yn darparu rôl arweiniol sy’n dylanwadu ar newid ymddygiad cymdeithasol, dylid ehangu cwmpas yr ymchwiliad i rôl y sector cyhoeddus o ran cyflawni nodau hinsawdd Cymru, yn hytrach na’r canlyniad cyffredinol cyfyngedig pe byddai’r sector cyhoeddus yn cyflawni ei darged sero net erbyn 2030.

Economeg Toesen

Mae'r argyfwng costau byw presennol, ynghyd â mwyfwy o drychinebau byd-eang, megis llifogydd Pacistan, wedi ein hatgoffa'n glir o'r gydberthynas rhwng cyfiawnder cymdeithasol a newid hinsawdd. Bydd trafodaeth bellach ar ymgorffori'r model Economeg Toesen  yng nghynlluniau hinsawdd awdurdodau lleol yn galluogi’r cymunedau hynny sy’n dioddef fwyaf yn sgil y newid yn yr hinsawdd i gymryd rhan mewn camau gweithredu cydgysylltiedig a’u cydgynhyrchu i sicrhau proses bontio deg i Gymru ddi-garbon.

Mae alinio camau gweithredu awdurdodau lleol o dan Ras i Sero â Toesen Cymru yn rhoi cyfle ar gyfer gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol ac o ran yr hinsawdd. Mae'r model yn gyson â Ras i Sero, ac yn galluogi aelodau i ddylunio cynlluniau a all flaenoriaethu anghenion cymdeithasol ar gyfer ffyniant a chydraddoldeb, gan hefyd gyfrannu at dargedau lleihau carbon a sicrhau cyfiawnder hinsawdd lleol a byd-eang.